Lleoliad:
Remote - Digital
Dyddiad: Dydd Iau, 16 Mawrth 2023
Amser: 9.00 – 16.00
Categori |
Enwau |
Aelodau'r Bwrdd: |
Dr Elizabeth Haywood (Cadeirydd); David Hanson; Michael Redhouse; Jane Roberts; Hugh Widdis. |
Yr ysgrifenyddiaeth: |
Huw Gapper, Clerc; Angharad Coupar, Dirprwy Glerc; Anna Daniel, Uwch-gynghorydd i’r Bwrdd; Kate Rabaiotti, Cynghorydd Cyfreithiol i'r Bwrdd; Bethan Davies, Pennaeth Cefnogaeth ac Ymgysylltu â’r Aelodau; Martin Jennings, Arweinydd Tîm Ymchwil yr Uned
Craffu Ariannol; |
Cyfranogwyr: |
Lowri Weatherburn, Cymorth Busnes i’r Aelodau; Dr Rebecca McKee, Sefydliad y Llywodraeth (Eitem 3). |
1 Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.15)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Soniodd y Cadeirydd yn gryno am gyfarfodydd cadarnhaol Grŵp y Cynrychiolwyr a gynhaliwyd ar 14 Mawrth.
Cytunodd y Bwrdd i gynnal cyfarfodydd hybrid ym mis Mai a Gorffennaf.
Cadarnhaodd y Cadeirydd ddyddiad ar gyfer cyfarfod rhwng cyrff taliadau pedair deddfwrfa'r DU.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod ar 2 Mawrth.
Cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth.
2 Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad 2023-24 - ar ôl ymgynghori(9.15 - 10.00)
Cytunodd y Bwrdd ar Benderfyniad diwygiedig 2023-24 a'r llythyr sy’n cyd-fynd ag ef, ar yr amod y gwneir ychydig o newidiadau fel y’u nodwyd yn y cyfarfod.
Nododd y Bwrdd yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r Penderfyniad a chytunodd i gyhoeddi datganiad i'r wasg.
Diolchodd y Bwrdd i'r swyddogion am eu gwaith ar yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad.
Cam i’w gymryd:
Nodi yn yr ymateb i Brif Weithredwr y Senedd mai mater i'r Comisiwn yn hytrach na'r Bwrdd yw’r ymholiad a wnaed i’r Bwrdd gan Aelodau am gynyddu’r dyraniad o ran darpariaeth TGCh.
Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu datganiad i'r wasg ynghyd â’r tîm cyfathrebu.
Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu bod llythyrau at bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad yn cael eu clirio gan y Cadeirydd.
3 Adolygiad staffio (10.10 - 11.40)
Croesawodd y Bwrdd Dr Rebecca McKee i'r cyfarfod. Cyflwynodd Rebecca ganfyddiadau ei hymchwil ar fframweithiau staffio mewn gwahanol ddeddfwrfeydd. Roedd y prif feysydd trafod yn ymwneud â strwythur staffio, swyddi cysylltiedig, trosiant staff, recriwtio a chadw.
Cyflwynodd Mike Redhouse, sy’n arwain yr adolygiad hwn ar ran y Bwrdd, bapur yn ystyried camau nesaf yr adolygiad thematig o gymorth staffio.
Cytunodd y Bwrdd ar gwmpas ac amcanion yr adolygiad o gyflog a graddfeydd a chytunodd i gynnwys Staff Cymorth Grwpiau’r Pleidiau yn yr adolygiad. Un o flaenoriaethau cychwynnol yr adolygiad yw sefydlu’r sefyllfa o ran y farchnad a’i chymharu â deddfwrfeydd eraill a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.
Nododd y Bwrdd wybodaeth ychwanegol a fyddai’n helpu i lywio’r adolygiad, megis cyfraddau trosiant, cyfweliadau ymadael fel yr awgrymwyd yng nghyfarfodydd Grŵp y Cynrychiolwyr, a lefelau gwariant yr Aelodau o’u lwfans staffio.
Cytunodd y Bwrdd i swyddogion baratoi manyleb ar gyfer y gwaith ochr yn ochr â Thîm Caffael y Comisiwn.
Roedd y Bwrdd yn cwestiynu’r ffigur a roddwyd fel sail ar gyfer Lwfans Cymorth Staffio’r Aelodau yng ngwaith ymchwil Rebecca, sef 3.5 cyfwerth ag amser llawn. Y swyddogion i holi Rebecca am hyn a chywiro’r ffigur os bydd angen.
Rhoi'r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani neu gyngor pellach i'r Bwrdd.
Diwygio’r cwmpas, yr amcanion a'r wybodaeth sydd ei hangen, yn unol â’r hyn a nodwyd uchod.
Cytunodd y Bwrdd i rannu rhagor o wybodaeth â Grwpiau’r Cynrychiolwyr am yr adolygiad sy'n cael ei gynnal.
4 Adolygiad symleiddio (11.50 -12.20)
Cyflwynodd Hugh Widdis, sy’n arwain yr adolygiad hwn ar ran y Bwrdd, y prif opsiynau strategol i'r Bwrdd.
Cytunodd y Bwrdd i fwrw ymlaen i flaenoriaethu lleihau rheolaethau segur a chynnal adolygiad o’r ffordd y mae’r Penderfyniad wedi cael ei ddrafftio.
Cytunodd y Bwrdd hefyd i ystyried unrhyw agweddau ar y system hawliadau cyfan ehangach y mae angen ei hadolygu mewn dull cydweithredol gyda'r Comisiwn.
Cytunodd y Bwrdd y byddai swyddogion yn llunio rhaglen o weithgarwch ac ymgysylltu ar gyfer yr adolygiad, ac yn rhannu gwybodaeth â Bwrdd Gweithredol Comisiwn y Senedd yn nodi'r amcanion ar gyfer yr adolygiad.
5 Rhaglen waith strategol (13.40 - 15.00)
Croesawodd y Bwrdd Dr Rebecca McKee i'r cyfarfod. Cyflwynodd Rebecca ganfyddiadau ei hymchwil ar fframweithiau staffio mewn gwahanol ddeddfwrfeydd. Roedd y prif feysydd trafod yn ymwneud â strwythur staffio, swyddi cysylltiedig, trosiant staff, recriwtio a chadw.
Cyflwynodd Mike Redhouse, sy’n arwain yr adolygiad hwn ar ran y Bwrdd, bapur yn ystyried camau nesaf yr adolygiad thematig o gymorth staffio.
Cytunodd y Bwrdd ar gwmpas ac amcanion yr adolygiad o gyflog a graddfeydd a chytunodd i gynnwys Staff Cymorth Grwpiau’r Pleidiau yn yr adolygiad. Un o flaenoriaethau cychwynnol yr adolygiad yw sefydlu’r sefyllfa o ran y farchnad a’i chymharu â deddfwrfeydd eraill a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.
Nododd y Bwrdd wybodaeth ychwanegol a fyddai’n helpu i lywio’r adolygiad, megis cyfraddau trosiant, cyfweliadau ymadael fel yr awgrymwyd yng nghyfarfodydd Grŵp y Cynrychiolwyr, a lefelau gwariant yr Aelodau o’u lwfans staffio.
Cytunodd y Bwrdd i swyddogion baratoi manyleb ar gyfer y gwaith ochr yn ochr â Thîm Caffael y Comisiwn.
Roedd y Bwrdd yn cwestiynu’r ffigur a roddwyd fel sail ar gyfer Lwfans Cymorth Staffio’r Aelodau yng ngwaith ymchwil Rebecca, sef 3.5 cyfwerth ag amser llawn. Y swyddogion i holi Rebecca am hyn a chywiro’r ffigur os bydd angen.
Rhoi'r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani neu gyngor pellach i'r Bwrdd.
Diwygio’r cwmpas, yr amcanion a'r wybodaeth sydd ei hangen, yn unol â’r hyn a nodwyd uchod.
Cytunodd y Bwrdd i rannu rhagor o wybodaeth â Grwpiau’r Cynrychiolwyr am yr adolygiad sy'n cael ei gynnal.
6 Polisi recriwtio (15.00 - 15.15)
Cytunodd y Bwrdd i newid y ddogfen o 'Bolisi Recriwtio' i 'Ganllawiau Recriwtio'. Nododd y Bwrdd y Canllawiau Recriwtio Staff Cymorth diwygiedig.
Nododd y Bwrdd newidiadau i'r canllawiau i adlewyrchu newidiadau diweddar i'r Penderfyniad, y Llawlyfr Cyflogaeth a'r Contract Safonedig.
Cam i’w gymryd:
Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad unwaith y bydd y canllawiau diwygiedig wedi eu cyhoeddi.
7 Adolygiad effeithiolrwydd (15.25 - 15.45)
Cytunodd y Bwrdd ar ei ymateb i'r adroddiad ar yr Adolygiad Canol Tymor o Effeithiolrwydd, yn amodol ar y newidiadau terfynol.
Trafododd y Bwrdd y drefn o ran cyflwyno a chyhoeddi'r adroddiad a'r ymateb iddo, a chytunodd i gyhoeddi'r ddau, ar wahân, ond ar yr un pryd ym mis Ebrill.
Cam i’w gymryd:
Yr ysgrifenyddiaeth i wneud newidiadau terfynol i'w cymeradwyo gan y Cadeirydd.
Cytunodd y Bwrdd i e-bostio grwpiau cynrychioliadol i'w hysbysu yn fuan cyn cyhoeddi’r adroddiad.
8 Papur diweddaru (15.45 - 16.00)
Nododd y Bwrdd y papur diweddaru a’r flaenraglen waith.
Nododd y Bwrdd y diweddariad staffio a’r ffaith y byddai ymarfer recriwtio allanol yn dechrau cyn bo hir i ganfod Uwch-ymchwilydd ar gyfer yr ysgrifenyddiaeth.
Nododd y Bwrdd y diweddariad ar ddau Hawliad Treuliau Eithriadol a gyflwynwyd i'r Bwrdd yn flaenorol. Roedd un wedi dod i ben erbyn hyn a chytunodd y Bwrdd i adolygu'r llall ym mis Mehefin.
Nododd y Bwrdd lythyr oddi wrth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch y Rheolau ar gyfer Grwpiau Trawsbleidiol a chytunodd ar ymateb.
Cam i’w gymryd:
Yr ysgrifenyddiaeth i wirio a yw'r taliad untro o £600 wedi'i gynnwys yn rhagolwg y Diweddariad Cyllid.
Yr ysgrifenyddiaeth i gyfarfod â'r Cadeirydd i drafod yr agenda ar gyfer cyfarfod mis Mai.
Cyhoeddi ymateb i lythyr y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.